Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y bydd rôl Comisiynwyr Heddlu Cymru a Lloegr yn cael ei adolygu am y tro cynta’ ers iddyn nhw gael eu creu yn 2012.

Bydd yr adolygiad yn golygu bod gan y cyhoedd fwy o ddweud dros blismona, yn ôl y Swyddfa Gartref, ond maen nhw wedi dweud eisoes na fydd y swyddi’n cael eu dileu

Ymysg y mesurau o dan ystyriaeth, mae codi proffil Comisiynwyr Heddlu, darparu mwy o wybodaeth i’r cyhoedd am berfformiad y comisiynwyr, ac ystyried sut maen nhw’n craffu ar waith Prif Gwnstabliaid.

Roedd maniffesto’r Blaid Geidwadol wedi addo rhoi mwy o bwerau i Gomisiynwyr Heddlu, ac ehangu y rôl.

Bydd cymal cyntaf yr adolygiad yn dechrau ddiwedd mis Gorffennaf, gydag adroddiad yn cael ei gyhoeddi fis Hydref, gan edrych ar ba newidiadau i’w cyflwyno cyn etholiadau Comisiynwyr Heddlu ddiwedd y flwyddyn.

Yna ar ôl yr etholiadau, bydd ail gymal yr adolygiad yn ystyried sut gall y rôl gael ei ehangu i gynnwys mynd i’r afael ag aildroseddu yn ogystal â ffyrdd eraill o leihau niferoedd troseddau.

Bydd yr adolygiad yn gwella “atebolrwydd, craffu a thryloywder” yn ôl yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel, tra bod y Gweinidog Troseddau a Phlismona, Kit Malthouse wedi dweud ei bod hi’n bwysig i Gomisiynwyr Heddlu fod yn “arweinwyr cryf a gweladwy.”