Mae penaethiaid Cyngor Manceinion wedi beirniadu graffiti hiliol sydd wedi ymddangos ar furlun George Floyd yn y ddinas.

Maen nhw’n dweud bod y weithred yn un “gwbl ffiaidd” a’u bod nhw’n cynnal ymchwiliad i geisio dod o hyd i’r sawl sy’n gyfrifol.

Fe ddigwyddodd rywbryd rhwng neithiwr (nos Fawrth, Gorffennaf 21) a bore heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 22).

Cafodd y murlun ei greu gan yr arlunydd lleol Akse P19 er cof am George Floyd, dyn croenddu fu farw dan law’r heddlu ym Minneapolis yn yr Unol Daleithiau, sydd wedi arwain at gefnogaeth fyd-eang i’r mudiad gwrth-hiliaeth.

Mae’r arlunydd bellach wedi glanhau’r murlun i’w gael yn ôl fel yr oedd cyn y graffiti.

“Mae’n gwbl ffiaidd fod y math yma o ymddygiad yn bod yn ein cymdeithas,” meddai Nigel Murphy, dirprwy arweinydd Cyngor Manceinion.

“Mae Manceinion yn lle sy’n dathlu ein hamrywiaeth a fyddwn ni ddim yn goddef casineb yn ein dinas.”

Mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad ond nad oes unrhyw un wedi cael ei arestio hyd yn hyn.