Mae dyn wedi cael ei garcharu ar ôl i’r heddlu orfod ei gwrso drwy strydoedd tref Merthyr Tudful ar gyflymdra o 100 milltir yr awr.

Ar Fawrth 31, fe wnaeth Leon Fear, 23, anwybyddu cais gan yr heddlu i stopio yn ardal Dowlais.

Ond fe gafodd ei ddilyn gan yr heddlu wrth iddo yrru ei gar Audi.

Er i’r heddlu ddefnyddio’r seiren a goleuadau glas, wnaeth e ddim stopio ac fe gyflymodd er mwyn ceisio dianc.

Yn ystod y daith, fe yrrodd ar ochr anghywir y ffordd gan yrru hefyd y ffordd anghywir o amgylch cylchfannau ac anwybyddu goleuadau traffig coch gan ddod o fewn trwch blewyn i daro cerbydau eraill.

Fe gyrhaeddodd e gyflymdra o bron i 100 milltir yr awr mewn parthau 30m.y.a., ac fe gyrhaeddodd ei anterth o fwy na 130m.y.a.

Bu’n rhaid i’r heddlu ei gwrso am bron i 20 munud cyn rhoi’r gorau iddi am resymau diogelwch, ac fe ddaethon nhw o hyd i’r cerbyd ar dir gwastad ger Aberaman yn ddiweddarach.

Fe fu’r heddlu’n chwilio amdano fe a sawl person arall ar dir Ysgol Gynradd Blaengwawr yn dilyn gwybodaeth gan dystion, a bu’n rhaid defnyddio hofrennydd.

Daethon nhw o hyd i Leon Fear a sawl dyn arall yn nofio gerllaw, ac fe gafodd ei gludo i’r ddalfa lle cafodd ei gyhuddo o yrru’n beryglus a gyrru heb drwydded nac yswiriant.

Cafodd ei garcharu am 14 mis yn dilyn gwrandawiad yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 21), ac fe fydd yn cael gwaharddiad rhag gyrru am dair blynedd ar ddiwedd ei ddedfryd.