Mae Bro360 yn gynllun gan gwmni Golwg i greu rhwydwaith o wefannau bro. Mae’r tîm wedi cydweithio â chymunedau yn Arfon a Cheredigion i greu chwech o wefannau bro – y lle ar y we i’r lleisiau lleol. Dyma flas o’r fideos, blogs ac erthyglau sydd wedi’u cyhoeddi gan bobol y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr yr wythnos diwethaf…

Cenedl heb iaith, cenedl heb galon

“Pan ddaw i astudio cyrsiau cyfrwng Saesneg yn y Brifysgol, mae disgwyl i rai myfyrwyr ysgrifennu mewn modd academaidd drwy eu hail iaith yn syth, heb arweiniad”

Mewn darn barn ar ei gwefan fro, Heledd Fflur Evans sy’n trin a thrafod y Gymraeg, sefyllfa anodd myfyrwyr, ac agweddau amharchus at yr iaith.

Darllen mwy: BroAber360.cymru

Disgyblion Penybryn yn dathlu ‘Ein Bro’…

Penderfynodd y plant eu bod am ddysgu mwy am eu hardal leol eleni gan ddweud, yn ddigon clir, nad oeddent am ddysgu drwy daflenni gwaith llafurus, ond yn hytrach mewn ffordd hwyliog, newydd, nad oeddent erioed wedi’i brofi o’r blaen.

Cytunwyd drwy bleidlais ddosbarth eu bod am greu ffilm, ac mae’r hanes am sut aethon nhw ati ar eu gwefan fro.

Darllen mwy: Ogwen360.cymru

‘Dennis Bergkamp Till I Die’

“O Mrs Bergkamp, be wnawn ni hefo’r hogyn bach ma? Oll ma’ ‘sho neud di chwarae ffwtbol efo’i gas pensilia” – lyrics cân newydd gan Pasta Hyll a Papur Wal, am y pêl-droediwr amryddawn. Ac nid jest y gân sydd wedi’i chyhoeddi gan yr hogia lleol ar eu gwefan fro, ond fideo arbennig yn arddangos doniau disglair y dewin direidus.

Darllen mwy: Caernarfon360.cymru

Straeon bro poblogaidd yr wythnos

  1. Plwyf tecaf y plwyfi gan Elliw Dafydd a Gwilym Jenkins ar BroAber360
  2. Cwsmeriaid “ddim yn teimlo’n saff” mewn archfarchnad gan golwg360 ar BroAber360
  3. Dau wedi’u harestio mewn cyrch cyffuriau ym Mhenparcau gan Mererid Boswell ar BroAber360