Roedd wythnos diwetha’ yn rhyfedd. Rhyw newid yn y gwynt. Roeddwn i’n dal i wenu ar ddieithriaid ond roedd llai yn gwenu yn ôl, a phobl yn osgoi yn ddrwgdybus yn hytrach ’na chorona-ddawnsio yn ddestlus o gwmpas ein gilydd ar balmentydd cul y brifddinas.

Ac yna, mi sylweddolais paham. Wedi misoedd o gyd-fyw a chyd-ddioddef cododd ein ‘Brexit newydd’. Y mwgwd.