Dyma ddetholiad o dair sgwrs a gafwyd o dan ofal Eisteddfod AmGen, y  Llyfrgell Genedlaethol a Gŵyl Ffor Arall mewn un diwrnod yr wythnos ddiwetha’…

Poen y Pandemig i Calan

Yn sesiwn ‘Angharad yn yr Archif’ (Mawrth, Gorffennaf 14) ar Facebook y Llyfrgell Genedlaethol, roedd Nia Mai Daniel o’r Llyfrgell yn holi’r cerddor gwerin, Angharad Jenkins.