Mae cynllun newydd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gobeithio datblygu arweinwyr Cymraeg Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol.
Mae’r Cynllun Sbarduno yn benodol ar gyfer siaradwyr Cymraeg rhwng 16 a 19 oed sy’n Ddu, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol i dderbyn cefnogaeth er mwyn datblygu eu sgiliau Cymraeg ac i feithrin hyder.
Pwrpas y cynllun yw sicrhau bod pobol ifanc Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn cael cyfle i drafod eu dyfodol gyda mentor all gynnig arweiniad a chyngor iddyn nhw ar sut i wneud y mwyaf o’u sgiliau Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol.
Dywed Emily Pemberton, Cydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth y Coleg Cymraeg, fod rhaid i sefydliadau Cymraeg fod “ychydig bach mwy rhagweithiol” wrth geisio cynnwys pobol wahanol sydd efallai heb ystyried astudio yn Gymraeg.
Mae’r Coleg Cymraeg yn “awyddus iawn” i ymestyn eu gwaith yn y maes Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth, yn ôl Emily Pemberton.
“Mae’r Gymraeg yn agor cymaint o ddrysau, ac mae’n bwysig bod disgyblion Du, Asiaidd neu Ethnig Lleiafrif yn gallu gweld bod cyfleoedd i hyfforddi, astudio a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg ar gael ac yn berthnasol iddyn nhw,” meddai wrth golwg360.
Bwriad y Coleg yw cynnig mentoriaid o wahanol feysydd gyrfa, ac mae’r rheiny’n cynnwys arbenigwyr sydd wedi graddio mewn Troseddeg, yn gweithio i Brifysgol Caerdydd, yn y Llyfrgell Genedlaethol ac i S4C.
“Maen nhw i gyd yn dod o feysydd gwahanol a dyna oedd y bwriad,” meddai Emily Pemberton.
“Wrth ddod â’r mentoriaid a’r myfyrwyr at ei gilydd i drafod profiadau, heriau a chyfleoedd, ac i gynnig cymorth a gwybodaeth, ein gobaith ydy meithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr Cymraeg.”
‘Cyfle amlwg i ddysgu’
Cafodd peilot o’r cynllun mentora ei gynnal y llynedd ac, yn ôl Emily Pemberton, roedd yr adborth yn dangos yr angen ymysg myfyrwyr ifainc i drafod gyda mentor llwyddiannus sydd yn siarad Cymraeg, sydd ddim yn athro neu’n rhiant.
Yn dilyn adborth “cadarnhaol” y llynedd, mae’r Coleg Cymraeg yn awyddus iawn i weld pa mor llwyddiannus fydd y cynllun eleni.
Un wnaeth elwa o’r profiad y llynedd yw Leon Edwards-Ohimekpen o Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd.
Cafodd gyfle i gael ei fentora gan Ashok Ahir, cadeirydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol a Chyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Cymwysterau Cymru.
Mae ganddo ddiddordeb mewn gyrfa yn y maes iechyd a gofal, ac yntau â rhieni sydd heb astudio yn y brifysgol, ac roedd y cyfle i gael ei fentora yn “gyfle amlwg” i ddysgu, meddai.
“Rwy’n credu bod cael mentor sy’n siarad Cymraeg mor bwysig hefyd, oherwydd mae’n dangos bod pobol yn gallu bod yn llwyddiannus yn y Gymraeg,” meddai.
“Ers bod ar y cynllun, dw i wedi datblygu fy hyder, a hoffwn i nawr fod yn fodel rôl i blant ifainc eraill o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol.”
Un arall gafodd fudd o’r cynllun yw Cerys Webber, disgybl yn Ysgol Gwent Is Coed yng Nghasnewydd.
Cafodd chi mentora gan Melanie Owen, y cyflwynydd a digrifwr.
“Roedd y cynllun yma wedi dod ar yr amser cywir i fi, oherwydd roeddwn i wir angen siarad â rhywun,” meddai Cerys Webber.
“Roedd Mel mor gyfeillgar i mi ac mor barod i helpu.
“Fe wnaeth hi ddangos bod llawer o gyfleoedd ar gael i mi i gael gyrfa lwyddiannus yma yng Nghymru trwy ddefnyddio’r iaith Gymraeg.
“Rwy’n annog pob person ifanc sydd o gefndir ethnig lleiafrifol i ymuno â’r cynllun yma.”
Cynllun fydd yn “newid bywydau”
Mae Natalie Jones, Swyddog Cynnwys Addysg S4C, yn fentor ar y cynllun, ac yn dweud ei fod yn “siŵr o newid bywydau pobol ifanc”.
“Fel person sy’n perthyn i gymuned sy’n cael ei thangynrychioli mewn bywyd cyhoeddus, rwy’n gallu uniaethu â’r her ychwanegol sydd yn bodoli i gyrraedd uchelgais mewn bywyd.
“Er bod sgiliau gen ti, weithiau dwyt ti ddim yn hyderus, ac mae angen rhywun fel mentor i ddweud wrthyt dy fod yn haeddu bod yn y rôl neu ar y cwrs fel unrhyw un arall.”
Mae’r Coleg Cymraeg yn “falch iawn” o’u cynllun “newydd a phwysig”, yn ôl Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg.
“Mae cryn dipyn gyda ni fel Coleg ac fel sector i’w wneud yn y maes Cydraddoldeb, Amrywiaeth, a Gwrth-hiliaeth, ac mae’r cynllun Sbarduno yn enghraifft o sut rydyn ni’n rhoi ein strategaeth ar waith er mwyn sicrhau bod addysg drydyddol Gymraeg a dwyieithog yn agored i bawb beth bynnag eu cefndir.”
Mae’r Coleg Cymraeg yn derbyn ceisiadau gan fyfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol rhwng 16 a 19 oed tan Hydref 8.