Mae cynlluniau i godi premiwm treth gyngor uwch ar berchnogion tai gwag yn Rhondda Cynon Taf wedi cymryd cam ymlaen.

Mewn cyfarfod yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Cabinet y Cyngor gefnogi’r cynlluniau i godi treth gyngor deirgwaith yn uwch na’r gyfradd arferol ar dai sydd wedi bod yn wag ers dros dair blynedd.

Maen nhw hefyd wedi cefnogi dyblu’r gyfradd i dai sydd wedi bod yn wag am flwyddyn i dair blynedd.

Bydd y cynigion yn mynd gerbron y Cyngor llawn ddydd Mercher (Medi 25) i gael eu cymeradwyo.

Byddai’r cynigion yn golygu bod y premiwm yn 100% i dai sydd wedi bod yn wag am flwyddyn i dair blynedd, fyddai’n golygu eu bod nhw’n talu dwy wraith y gyfradd arferol.

Byddai lefel y premiwm yn codi i 200% i dai sydd wedi bod yn wag am dros dair blynedd, fyddai’n golygu eu bod nhw’n talu teirgwaith y gyfradd arferol.

Dros 1,500 o dai gwag perthnasol

Yn ôl adroddiad y Cyngor, mae 1,065 o dai wedi bod yn wag ers hyd at chwe mis yn Rhondda Cynon Taf, 608 ers rhwng saith i 12 mis, 586 ers blwyddyn i ddwy, 247 ers dwy flynedd i dair blynedd, 226 ers rhwng tair a phum mlynedd, a 459 sy’n wag ers dros bum mlynedd.

Byddai lefel y premiwm treth gyngor ar ail gartrefi’n aros ar 100%, a byddai’r newid ar gyfer eiddo gwag hirdymor yn dod i rym fis Ebrill 2025.

Fe fydd y Cyngor yn ysgrifennu at bob perchennog er mwyn eu cynghori nhw am y newid unwaith maen nhw wedi dod i benderfyniad.

Noda’r adroddiad, pe bai’n glir nad oes yna unrhyw arwydd realistig bod y perchennog am weithredu i ddod â’r tŷ’n ôl i ddefnydd, y gallai’r Cyngor ymyrryd.

Gallai hynny gynnwys pryniant gorfodol.

Byddai newid lefel y premiwm yn dod â thua £750,000 ychwanegol y flwyddyn i’r Cyngor, ond bydd hynny’n cael ei adolygu a’i gadarnhau’n ddibynnol ar eithriadau.

Yn ôl yr adroddiad, byddai’r arian yn mynd tuag at gefnogi parhad strategaeth tai gwag y Cyngor.

“Er gwaethaf ymyriadau blaenorol, mae eiddo gwag hirdymor yn parhau i fod yn her i gymunedau,” meddai’r Cynghorydd Christina Leyshon.

“Mae’r eiddo gwag yn tynnu oddi wrth yr ardal ac yn arwain at damprwydd a phroblemau i dai sy’n sownd iddyn nhw, ac rydyn ni’n gwybod fod nifer ohonyn nhw’n eiddo i landlordiaid sydd ddim yn byw yn lleol.

“Dydyn nhw ddim yn byw nac yn gweithio’n agos at Rondda Cynon Taf.”

57.5% yn anghytuno

Fe wnaeth 157 o bobol ymateb i’r ymgynghoriad ar y mater, a 53% ohonyn nhw’n berchnogion eiddo gwag yn Rhondda Cynon Taf.

Mae’r ymgynghoriad yn dangos bod 57.5% o’r holl ymatebwyr yn anghytuno â’r cynigion i godi’r premiwm.

Fodd bynnag, roedd mwyafrif y bobol ddywedodd eu bod nhw’n byw yn y sir yn fwy tebygol o gytuno (66.2%) o gymharu â’r perchnogion eiddo gwag (10.4%).

Ers Ebrill 2017, mae cynghorau yng Nghymru yn cael codi premiwm o hyd at 100% o dreth gyngor ar ail dai neu eiddo gwag hirdymor, a fis Ebrill diwethaf, cododd y ganran i 300%.

Cynghorau lleol sy’n cael penderfynu a ydyn nhw eisiau codi’r premiwm ar ail dai, eiddo gwag hirdymor neu’r ddau, ac mae yna rai eithriadau i’r premiymau.