Y lori ludw wedi'r ddamwain yn Glasgow
Mae gwrandawiad i ddamwain lori ludw yn Glasgow wedi clywed y gallai marwolaethau chwech o bobl fod wedi’u hosgoi petai’r gyrrwr wedi cymryd camau diogelwch.

Aeth Harry Clarke, 58, yn anymwybodol wrth lyw’r cerbyd cyn iddo deithio oddi ar y ffordd a tharo cerddwyr ar Ragfyr 22 y llynedd.

Eisoes, mae’r gwrandawiad wedi clywed nad oedd Clarke wedi rhoi gwybod i’r DVLA nac i Gyngor Dinas Glasgow am hanes o salwch, gan gynnwys mynd yn anymwybodol wrth yrru bws yn 2010.

Hyd yn hyn, mae Clarke wedi gwrthod ateb cwestiynau yn ystod y gwrandawiad, ac mae teuluoedd y rhai fu farw’n ystyried dwyn achos preifat yn ei erbyn yn dilyn penderfyniad yr awdurdodau i beidio’i erlyn yn gyfreithiol.

Dywed teulu un o’r rhai fu farw, Jacqueline Morton fod nifer o gyfleoedd wedi’u colli i osgoi’r ddamwain.

DVLA

Mae’r camau y gallai fod wedi eu cymryd, yn ôl y teulu, yn cynnwys dilyn canllawiau’r DVLA, rhoi gwybod i feddyg wedi iddo fynd yn anymwybodol wrth lyw bws a llenwi ffurflenni cais am swyddi blaenorol mor onest â phosib.

Dywed y teulu a’u cyfreithwyr y gallai meddygon, y DVLA a Chyngor Dinas Glasgow hefyd fod wedi cymryd camau ychwanegol er mwyn osgoi’r ddamwain.

Galwodd cyfreithwyr y teulu ar y DVLA i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch trwyddedu cerbydau ac aralleirio canllawiau ar gyfer meddygon a’r cyhoedd.

Yn ogystal, awgrymodd y dylai cynghorau sicrhau bod gan gerbydau lludw systemau brecio awtomatig, a bod gyrwyr yn adnabod eu cerbydau’n dda.

Cafodd Erin McQuade, 18, ei thad-cu Jack Sweeney, 68, ei mam-gu Lorraine Sweeney, 69, Stephanie Tait, 29, a Jacqueline Morton, 51, a Gillian Ewing, 52, eu lladd yn y ddamwain.