Mae disgwyl i ragor o brofion gael eu cynnal ar weddillion dyn a gafodd eu darganfod wrth ymyl cyffordd 4 yr M54 yn Sir Amwythig yr wythnos diwethaf.

Yn dilyn archwiliad post mortem, does dim modd dweud yn sicr pwy yw’r unigolyn na chwaith beth achosodd ei farwolaeth.

Ond mae gweddillion y dyn wedi bod ar y safle ers mwy na dwy flynedd.

Daeth gweithwyr o hyd i benglog ar Awst 20 ger Telford, a chafodd y ffordd ei chau wrth i archwiliad gael ei gynnal.

Dydy’r heddlu ddim yn gwybod ar hyn o bryd sut y cyrhaeddodd y gweddillion y fan lle cawson nhw eu darganfod.