Yr olygfa adeg y ddamwain (PA)
Fydd gyrrwr y lori ludw a laddodd chwech o bobol yn Glasgow ar Ragfyr 22 y llynedd ddim yn wynebu yr un cyhuddiad troseddol.

Roedd gwrandawiad wedi’i gynnal yn Llys Siryff Glasgow i benderfynu i erlyn Harry Clarke, 58, neu beidio.

Cafodd y penderfyniad ei wneud ar sail tystiolaeth feddygol a gafodd ei chyflwyno i feddygon, asiantaeth drwyddedu’r DVLA a Chyngor Dinas Glasgow.

Ond er na fydd yn wynebu achos troseddol, fe allai teuluoedd y rhai a fu farw ddwyn achosion personol yn erbyn y gyrrwr.

Llewygu

Daeth i’r amlwg nad oedd Harry Clarke wedi datgelu manylion meddygol wrth y DVLA ac roedd y llys yn barod i ystyried cyhuddiadau o dwyll ynglŷn â chelu’r wybodaeth.

Roedd wedi llewygu wrth y llyw unwaith ynghynt pan oedd yn yrrwr bws, ond doedd e ddim wedi rhoi gwybod am y digwyddiad i Gyngor Dinas Glasgow pan gafodd ei gyflogi i yrru’r lorri ludw.