Mae tair merch yn eu harddegau ymhlith pump o bobol o’r un teulu sydd wedi cael eu harestio gan heddlu gwrth-frawychiaeth yn nwyrain Llundain.
Cafodd y pump – dyn 51 oed, dynes 53 oed a’r tair merch 16, 17 ac 19 oed – eu harestio yn dilyn cyrch gan Heddlu Scotland Yard y bore yma.
Mae’r pump yn cael eu holi gan yr heddlu yng nghanol Llundain ar amheuaeth o fod â gwybodaeth a allai fod o ddefnydd i unigolyn sy’n cyflawni neu’n paratoi i gyflawni gweithred frawychol.
Honiadau eraill
Cafodd y dyn 51 oed ei holi hefyd ar amheuaeth o fod â dogfennau ffug yn ei feddiant gyda’r bwriad o’u camddefnyddio.
Cafodd y ferch 16 oed ei harestio fis diwethaf ar amheuaeth o baratoi gweithred frawychol. Mae hi ar fechnïaeth yr heddlu ynglŷn â’r achos hwnnw.