Lisa Beck a Simon Murphy (llun PA)
Mae cwpwl o Abertawe wedi’u cael yn euog o sarhau gwedduster cyhoeddus yn ystod cyngerdd yn Hyde Park yn Llundain.

Fe gawson nhw ddirwyon o £1,000 yr un a beirnadaeth lem gan y barnwr.

Fe fydd rhaid iddyn nhw dalu erbyn 13 Tachwedd neu wynebu 21 niwrnod yn y carchar.

Gwadu

Roedd Lisanne Beck, 47, a Simon Murphy, 48, wedi gwadu’r cyhuddiad eu bod wedi cymryd rhan mewn gweithred rywiol yn ystod cyngerdd teuluol dan adain Radio 2.

Fe glywodd rheithgor yn yr Old Bailey yn Llundain fod y ddau wedi cael eu ffilmio ar ffôn symudol yn ystod y cyngerdd fis Medi’r llynedd.

Fe ddywedodd y barnwr fod angen dysgu gwers iddyn nhw am ymddygiad “arbennig o ffiiaidd”.

Rhyw gyda’r geg

Honnodd yr erlyniad fod Lisa Beck, sy’n weinyddes groeso, wedi cael rhyw gyda’r geg ar Simon Murphy, sy’n arddwr, pan oedd yn gorwedd ar y ddaear.

Roedd hi’n gwadu hynny, gan ddweud ei bod wedi ei ysgwyd i’w ddeffro er mwyn ei helpu i fynd i’r tŷ bach, gan fod ganddo drafferthion gyda’i stumog.

Ond daeth y rheithgor i benderfyniad unfrydol eu bod nhw’n euog.