Mae ditectifs sy’n chwilio am fachgen saith oed a ddiflannodd tra’n chwarae gyda’i ffrindiau mewn parc yn dweud eu bod wedi dod o hyd i gorff plentyn ar safle adeiladu.

Dywed Heddlu Swydd De Efrog eu bod nhw’n credu mai corff Conley Thompson o Barnsley y cafwyd hyd i’w gorff y bore ma.

Cafodd ei weld y tro diwethaf yn chwarae gyda ffrindiau ym Mharc Locke tua milltir o’r safle adeiladu yn Worsbrough nos Sul.

Roedd wedi cyrraedd y parc tua 6yh ac fe adawodd ddwy awr yn ddiweddarach ond fe fethodd a dychwelyd i’w gartref.

Cafwyd hyd i’r corff tua 8.30yb y bore ma. Mae teulu Conley wedi cael gwybod.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Victoria Short fu’n arwain yr ymchwiliad: “Fe wnaethon ni ddefnyddio ein holl adnoddau i chwilio am Conley drwy’r nos ac rydym wedi tristau’n fawr gan y datblygiad trasig yma.

“Mae ei farwolaeth yn cael ei drin fel un anesboniadwy ar hyn o bryd ac fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal yn ddiweddarach.

“Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Conley yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn.”