Arglwydd Sewel
Mae’r Arglwydd Sewel wedi cael ei atal o’r Blaid Lafur yn dilyn honiadau ei fod wedi cymryd cyffuriau gyda phuteiniaid, mae’r blaid wedi cadarnhau.

Yn dilyn yr adroddiadau yn y Sun on Sunday, mae’r Arglwydd Sewel wedi ymddiswyddo fel Dirprwy Lefarydd Tŷ’r Arglwyddi.

Roedd y swydd, a oedd yn talu cyflog o £84,500, yn cynnwys cyfrifoldeb dros gynnal safonau’r Arglwyddi.

Mae awdurdodau’r Senedd wedi galw ar Scotland Yard i ymchwilio i’r honiadau.

Mae ’na alwadau arno i ymddiswyddo o’r Senedd yn gyfan gwbl – ac fe allai fod yn un o’r Arglwyddi cyntaf i gael eu diarddel o dan reolau newydd llym yr oedd ef ei hun yn gyfrifol am eu cyflwyno, hyd yn oed os nad yw’r heddlu’n cymryd camau pellach.

Honnir bod yr Arglwydd Sewel, 69 oed, wedi cymryd cocên gyda’r puteiniaid yn ei fflat yn Sgwar Dolphin, Pimlico, yn Llundain.

Dywedodd llefarydd Tŷ’r Arglwydd y Farwnes D’Souza bod ymddygiad yr Arglwydd Sewel, sy’n briod, yn “annerbyniol” a’i bod yn cyfeirio’r mater at yr heddlu.

Ychwanegodd y Farwnes D’Souza  bod yr Arglwydd Sewel wedi ymddiswyddo fel cadeirydd y pwyllgorau.

“Fe fydd yr honiadau difrifol yma yn cael eu cyfeirio at Gomisiynydd Safonau Tŷ’r Arglwyddi a’r Heddlu Metropolitan am ymchwiliad brys,” meddai.

Mae’r AS Llafur John  Mann wedi mynnu y dylai’r Arglwydd Sewel adael Tŷ’r Arglwyddi o’i wirfodd ar unwaith cyn iddo gael ei ddiarddel.