Mae Heddlu De Cymru wedi apelio am wybodaeth ar ôl “digwyddiad difrifol” nos Sul ar ffordd yr A4059 rhwng Aberpennar ac Abercynon.

Fe ddigwyddodd y ddamwain toc wedi 7.40yh neithiwr, ac mae un person wedi cael ei gludo i’r ysbyty.

Mae rhan o’r ffordd ynghau wrth i ymchwiliadau barhau, ac mae’r heddlu wedi gofyn i yrwyr osgoi’r ffordd honno a defnyddio llwybrau teithio eraill.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu oedd wedi gweld unrhyw beth yn ymwneud â’r ddamwain i gysylltu â nhw ar 101 neu drwy Taclo’r Taclau ar 0800 555111, gan ddefnyddio’r rhif cyfeirnod 1500271720.