Y diweddar Whitney Houston, mam Bobbi Kristina Brown
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i ferch y diweddar Whitney Houston a’r canwr Bobby Brown sydd wedi marw’n 22 mlwydd oed.

Bu farw Bobbi Kristina Brown saith mis ar ôl cael ei darganfod yn anymwybodol mewn bath yn ei chartref yn Atlanta.

Dywedodd llefarydd ar ran y teulu ei bod hi wedi marw wedi ei hamgylchynu gan ei theulu ac “o’r diwedd mewn hedd ym mreichiau Duw”.

Bu farw Whitney Houston yn 2012.

Bobbi Kristina oedd unig blentyn Houston a Brown.