Lluoedd Twrci yn gwarchod y ffin a Syria
Mae o leiaf 15 o bobl sy’n cael eu hamau o fod yn gysylltiedig â’r grŵp  brawychol IS wedi cael eu harestio gan yr heddlu yn Nhwrci.

Cafodd nifer o gyrchoedd eu cynnal ar gartrefi yn ardal Haci Bayram yn y brifddinas Ankara dros y penwythnos.

Mae’r 15 o bobl yn cael eu cadw yn y ddalfa.

Dywedodd yr asiantaeth newyddion Anadolu fod y rhai sydd wedi cael eu harestio yn cynnwys nifer o dramor, ond dyw hi ddim yn hysbys o ble mae’r bobl yn dod hyd yn hyn.

Ers dydd Gwener, mae Twrci wedi bod yn cynnal ymosodiadau o’r awyr yn erbyn targedau IS yn Syria safleoedd gwrthryfelwyr Cwrdaidd yng ngogledd Irac. Mae’r awdurdodau hefyd wedi arestio cannoedd o bobl sydd wedi eu hamau o fod â chysylltiad ag eithafwyr.

Ddoe, galwodd Twrci am gyfarfod gyda chynghreiriad NATO i drafod bygythiadau i’w diogelwch, yn ogystal â’i ymosodiadau awyr.