David Cameron
Fe allai cytundebau busnes gwerth £750 miliwn gael eu cytuno yn ystod ymweliad pedwar diwrnod David Cameron a de ddwyrain Asia.

Fe fydd taith y Prif Weinidog yn dechrau yn Indonesia heddiw a bydd grŵp o arweinwyr busnes o’r DU yn ymuno a David Cameron ar y daith.

Y  bwriad yw hybu cysylltiadau economaidd gyda rhan o’r byd sydd a “photensial mawr” i Brydain, meddai Downing Street.

Yn ystod trafodaethau yn Indonesia a Malaysia, bydd David Cameron hefyd yn canolbwyntio ar y bygythiad cynyddol gan y grŵp eithafol IS.