Mae dyn 18 oed wedi marw ar ôl anadlu nwy ocsid nitraidd mewn parti yn ne-ddwyrain Llundain.

Syrthiodd yn anymwybodol yn y stryd yn Bexley am oddeutu 11.18 nos Sadwrn, ond fe fu farw yn yr ysbyty ddwy awr yn ddiweddarach.

Dywed yr heddlu eu bod nhw’n credu ei fod wedi bod yn yfed alcohol cyn anadlu’r nwy i mewn.

Roedd wedi dioddef o drawiad ar y galon erbyn i’r heddlu ei gyrraedd.

Dywed Heddlu Llundain fod ei deulu wedi cael gwybod a bod disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal yn ddiweddarach.

Mae’r defnydd o nwy ocsid nitraidd ar gynnydd yng ngwledydd Prydain, gan ei fod yn cael ei ystyried fel cyffur cyffreithlon – er ei bod yn anghyfreithlon gwerthu’r cyffur erbyn hyn.

Oherwydd ei effeithiau, mae’n cael ei alw’n ‘nwy chwerthin’.

Gall anadlu’r nwy achosi problemau pwysedd gwaed, llewygu a thrawiad ar y galon.

Mae ymchwil yn dangos bod 7.6% o bobol rhwng 16 a 24 oed yng ngwledydd Prydain wedi arbrofi gyda’r nwy.

Roedd 17 o bobol yng ngwledydd Prydain wedi marw o ganlyniad i effeithiau’r cyffur rhwng 2006 a 2012.