Mae’r heddlu’n ymchwilio i dân bwriadol ar safle hen westy yn Nhonypandy nos Wener.

Digwyddodd y tân yng ngwesty Central ar Ffordd Clydach y dref rhwng 7 a 7.30 y nos.

Doedd neb yn yr adeilad ar y pryd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod nhw’n credu bod rhywun wedi torri i mewn i’r adeilad cyn ei roi ar dân.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.