Cwpan y Byd
Fe fydd Cymru yn wynebu Awstria, Serbia, Gweriniaeth Iwerddon, Moldova a Georgia yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018.
Roedd Serbia yn un o wrthwynebwyr Cymru yng ngrwpiau rhagbrofol y Cwpan y Byd diwethaf, gan golli’n drwm iddyn nhw ddwywaith.
Y tro diwethaf i Gymru chwarae yn erbyn Awstria a Gweriniaeth Iwerddon oedd mewn gemau cyfeillgar yn 2013, gan drechu’r Awstriaid 2-1 a chael canlyniad di-sgor 0-0 yn erbyn y Gwyddelod.
Bydd tim Chris Coleman hefyd yn wynebu tripiau pell i ddwyrain Ewrop i wynebu Moldova a Georgia yn ystod yr ymgyrch.
Cafodd y grwpiau eu dewis mewn seremoni yn St Petersburg, Rwsia, heddiw ac fe fydd ymgyrch ragbrofol y timau Ewropeaidd yn dechrau ym mis Medi 2016.
Grŵp A – Yr Iseldiroedd, Ffrainc, Sweden, Bwlgaria, Belarws, Lwcsembwrg
Grŵp B – Portiwgal, Y Swistir, Hwngari, Ynysoedd y Ffaro, Latfia, Andorra
Grŵp C – Yr Almaen, Y Weriniaeth Tsiec, Gogledd Iwerddon, Norwy, Azerbaijan, San Marino
Grŵp D – Cymru, Awstria, Serbia, Gweriniaeth Iwerddon, Moldova, Georgia
Grŵp E – Rwmania, Denmarc, Gwlad Pwyl, Montenegro, Armenia, Kazakstan
Grŵp F – Lloegr, Slofacia, Yr Alban, Slofenia, Lithwania, Malta
Grŵp G – Sbaen, Yr Eidal, Albania, Israel, Macedonia, Liechtenstein
Grŵp H – Gwlad Belg, Bosnia-Herzegovina, Groeg, Estonia, Cyprus
Grŵp I – Croatia, Gwlad yr Ia, Wcrain, Twrci, Y Ffindir