Mae Morgannwg allan o’r T20 Blast wedi iddyn nhw gael eu curo o wyth wiced gan Swydd Gaerloyw yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd.

Cyrhaeddodd yr ymwelwyr y nod o 46 gyda saith pelen o’r pum pelawd yn weddill ar ddiwedd gornest a gafodd ei chwtogi’n sylweddol gan y glaw.

Roedd y dafl yn un bwysig wrth i’r ymwelwyr alw’n gywir a gwahodd Morgannwg i fatio’n gyntaf, a’r Cymry’n gwybod fod rhaid iddyn nhw ennill a gwella’u cyfradd sgorio er mwyn cyrraedd rownd yr wyth olaf.

Bydd y golled hon yn fwy siomedig i Forgannwg yn dilyn glaw ym mron pob rhan o Gymru a de Lloegr.

Crynodeb

Roedd bwriad y Cymry’n amlwg o’r cychwyn cyntaf wrth i Colin Ingram daro chwech a dau bedwar yn y belawd gyntaf oddi ar fowlio David Payne, ac roedd Morgannwg yn 17-0 ar ddiwedd cyfnod clatsio.

Ond llaciodd y pwysau ar yr ymwelwyr wrth i James Fuller fowlio pelawd ddi-sgôr ac eithrio pedwar heibiad yn yr ail belawd, a Morgannwg yn 21-0 gyda thair pelawd yn weddill.

Collodd Morgannwg eu wiced gyntaf yn y drydedd belawd wrth i Ingram ddarganfod dwylo diogel Chris Dent oddi ar fowlio Kieran Noema-Barnett, ac yntau wedi sgorio 18.

Gyda hynny, fe ddaeth Craig Meschede i’r llain ac fe gafodd ychydig o lwc wrth daro’i bedwar cyntaf, wrth i’r bêl wibio heibio James Fuller oedd yn maesu yn safle’r trydydd dyn dwfn.

Gyda 15 o rediadau wedi’u hychwanegu at eu cyfanswm, roedd Morgannwg yn 36-1 ar ôl tair pelawd.

Ond un rhediad yn unig gafodd ei ychwanegu yn y bedwaredd belawd, wrth i Forgannwg lithro i 37-1 gyda phelawd yn weddill.

Cyn i’r belawd olaf ddod i ben, roedd rhaid i Graham Wagg adael y cae ar ôl cael ei daro ar ei ben gan Craig Miles wrth geisio taro bownsar, ac fe ddaeth Chris Cooke i’r llain i wynebu gweddill y belawd.

Gorffennodd Morgannwg eu batiad gyda 45-1, ac roedd gan yr ymwelwyr nod o 46 i ennill, er bod eu gobeithion o gyrraedd rownd yr wyth olaf ar ben cyn i’r ornest ddechrau oherwydd y canlyniadau eraill yn y grŵp.

Craig Meschede gafodd y cyfrifoldeb o fowlio’r belawd gyntaf, ac fe ildiodd ddeg rhediad wrth i Swydd Gaerloyw gyrraedd y gyfradd oedd ei hangen arnyn nhw.

Ond cipiodd Morgannwg wiced hollbwysig Michael Klinger wrth i’r batiwr glatsio David Lloyd yn syth i ddwylo’r capten Jacques Rudolph ar ymyl y cylch, a’r ymwelwyr yn 11-1.

Doedd hi ddim yn hir cyn i Lloyd gipio’i ail wiced, wrth i’r wicedwr o dras Gymreig, Geraint Jones gael ei fowlio ar ôl taro chwech a phedwar, a Swydd Gaerloyw bellach yn 22-2.

Daeth 10 rhediad oddi ar y drydedd belawd gan Dean Cosker, wrth i Chris Dent a Benny Howell ddod â sefydlogrwydd i fatiad yr ymwelwyr, ac roedd angen 13 oddi ar y ddwy belawd olaf am y fuddugoliaeth.

Tarodd Dent bedwar a chwech i unioni’r sgôr ond fe gyrhaeddodd yr ymwelwyr y nod gyda saith pelen yn weddill, a Dent – wrth glatsio tri chwech a phedwar – yn 28 heb fod allan.

Morgannwg: J Rudolph (capten), C Ingram, A Donald, B Wright, C Cooke, C Meschede, G Wagg, M Wallace, D Lloyd, D Cosker, M Hogan

Swydd Gaerloyw: M Klinger (capten), C Dent, B Howell, G Jones, K Noema-Barnett, J Taylor, J Fuller, T Smith, C Miles, D Payne, M Hammond

Dyfarnwyr: J Evans, R Evans