Iolo Cheung sydd yn bwrw golwg dros y posibiliadau, a’r timau posib i’w hosgoi, wrth i’r grwpiau gael eu dewis yn Rwsia fory

Fe fydd grwpiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 yn cael eu dewis brynhawn fory mewn seremoni yn St Petersburg, Rwsia – a Chymru yn obeithiol am y tro cyntaf mewn tro byd o gael gwrthwynebwyr ffafriol.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn wych i’r tîm cenedlaethol, sydd ar frig eu grŵp rhagbrofol Ewro 2016 ac wedi codi i’r degfed safle yn rhestr detholiadau’r byd FIFA.

Fe fyddan nhw felly ymysg y pot o brif ddetholion wrth i’r grwpiau gael eu dewis yfory, gyda lle i obeithio y bydd eu her o geisio cyrraedd Cwpan y Byd ymhen tair blynedd ychydig yn haws na blynyddoedd a fu.

Pwy allai bechgyn Chris Coleman wynebu, felly, pan fydd y rowndiau rhagbrofol hynny yn dechrau mewn ychydig dros flwyddyn? Beth fyddai’r grŵp delfrydol, a phwy sydd angen eu hosgoi?

Osgoi’r cewri

Fory fe fydd naw grŵp rhagbrofol yn cael eu dewis – saith grŵp o chwech tîm a dau grŵp o bump – gydag enillydd pob grŵp yn cyrraedd Cwpan y Byd ac wyth o’r timau sydd yn ail yn wynebu gêm ail gyfle.

Fe fydd pob grŵp yn cynnwys dim mwy nag un tîm o bob ‘Pot’, felly mae Cymru’n gwybod yn barod pa dimau dydyn nhw’n bendant ddim am wynebu.

Y newyddion da i Gymru yw bod y timau eraill sydd gyda nhw ym Mhot Un i gyd yn gewri pêl-droed Ewropeaidd – felly fyddan nhw ddim yn wynebu’r Almaen, Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd, Rwmania, Lloegr, Portiwgal, Sbaen na Croatia.

Ond mae sawl tîm cryf y byddan nhw’n awyddus i’w hosgoi ym Mhot Dau gan gynnwys Yr Eidal, Ffrainc, Slofacia a’r Swistir.

Ymysg y timau eraill ym Mhot Dau mae Bosnia, gwrthwynebwyr Cymru yn eu hymgyrch Ewro 2016 presennol, a rhai fel Awstria, Y Weriniaeth Tsiec, Denmarc a Gwlad yr Ia – ambell un yn sicr yn haws na’r llall.

Perygl Pot Tri

Fe fydd pwy bynnag sydd yn wynebu Cymru o Bot Dau yn debygol o fod yn anodd eu trechu, ond y tîm sydd yn dod allan o Bot Tri sydd yn debygol o benderfynu a fydd Chris Coleman yn dychwelyd o Rwsia yn ddyn bodlon.

Mae ambell dîm cryf iawn yn y pot yma fyddai’n golygu trip heriol i ddwyrain Ewrop gan gynnwys Gwlad Pwyl, yr Wcráin a Serbia – roddodd ddwy grasfa i Gymru yn ymgyrch Cwpan y Byd 2014.

Fe allai Cymru hefyd wynebu darbi Brydeinig yn erbyn Yr Alban neu Ogledd Iwerddon, a dyw Sweden ddim yn dîm ffôl chwaith.

Hwngari, Albania a Groeg yw’r timau eraill ym Mhot Tri, ac fe fyddai Cymru’n ddigon bodlon eu byd mae’n siŵr petai un ohonyn nhw’n dod allan o’r het.

Y gweddill

Erbyn cyrraedd Pot Pedwar fe ddylai’r gwrthwynebwyr fod yn haws, ond mae’r safon yn amrywio’n sylweddol rhwng y timau yn fan hyn.

Byddai cael Twrci yn eu grŵp yn her a hanner i Gymru, neu fe allan nhw wynebu darbi leol petai Gweriniaeth Iwerddon yn cael eu dewis.

Ond mae’r timau eraill i gyd yn rhai y byddai Cymru’n debygol o fod yn ffefrynnau i’w curo – Slofenia, Israel, Bwlgaria, Ynysoedd y Ffaro, Montenegro ac Estonia.

Gyda Cyprus, Latfia, Armenia, Y Ffindir, Belarws, Macedonia, Azerbaijan, Lithwania a Moldova ym Mhot Pump, fe fydd cefnogwyr Cymru yn wynebu o leiaf un trip i ddwyrain neu ogledd pella’ Ewrop yn ystod yr ymgyrch.

Ond ym Mhot Chwech, heblaw am yr awydd i osgoi trip pell i Kazakstan neu Georgia, ddylai timau fel Lwcsembwrg, Liechtenstein, Malta, San Marino ac Andorra ddim peri llawer o ofid i Gymru.

Teithiau tramor

Pa mor hyderus ydych chi wrth ystyried gobeithion Cymru o gyrraedd Cwpan y Byd 2018 felly?

Pa dimau fyddech chi’n awyddus i’w hosgoi? Pwy fyddai’r gwrthwynebwyr mwyaf ffafriol yn eich barn chi?

Ac i’r rheiny ohonoch chi fydd yn gobeithio mynd dramor i ddilyn y tîm, pa wledydd hoffech chi ymweld â nhw?

Grŵp delfrydol posib: CYMRU, Gwlad yr Ia, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Ffaro, Moldova, San Marino

Grŵp heriol posib: CYMRU, Yr Eidal, Serbia, Twrci, Azerbaijan, Kazakstan

Bydd y grwpiau yn cael eu dewis am 4.00 o’r gloch BST dydd Sadwrn 24 Gorffennaf, ac fe fydd modd dilyn y diweddaraf ar gyfrif Twitter @golwg360 ac ar y wefan.