Yr Old Bailey
Yn yr Old Bailey, mae bachgen 15 oed wedi pleidio’n euog i gyhuddiad o annog brawychiaeth drwy annog pobl i lofruddio plismyn yn ystod gorymdaith Diwrnod Anzac yn Awstralia.
Roedd y bachgen, na ellir cyhoeddi ei enw am resymau cyfreithiol, wedi cyflwyno ei ble drwy gyswllt fideo o Lys y Goron Manceinion.
Mae’r bachgen, o ogledd orllewin Lloegr, wedi ei gyhuddo o annog person i gyflawni gweithred frawychol y tu allan i’r DU rhwng 15 a 26 Mawrth 2014.
Cafodd ail gyhuddiad o annog brawychiaeth dramor, mewn cysylltiad â dienyddio person yn Awstralia, ei ollwng gan yr erlyniad.