Liz Kendall
Mae Liz Kendall wedi gwrthod galwadau i gamu o’r neilltu yn ras am arweinyddiaeth Llafur er mwyn atal yr ymgeisydd asgell chwith, Jeremy Corbyn, rhag ennill.
Mae adroddiadau heddiw fod Liz Kendall o dan bwysau i dynnu nôl o’r ras fel bod y bleidlais gymedrol unai’n mynd i Andy Burnham neu Yvette Cooper – y ddau ymgeisydd canolig.
Fodd bynnag, mynnodd Liz Kendall – sy’n cael ei gweld fel ffefryn y Blairites – nad oedd ganddi unrhyw fwriad i roi’r gorau iddi.
Dywedodd ei chefnogwyr mai Andy Burnham ac Yvette Cooper oedd i’w beio, ac nid unrhyw un arall, am fod y gefnogaeth yn tyrru tu ôl i Jeremy Corbyn.
Yn ôl arolwg barn o’r rhai sy’n gymwys i bleidleisio a gyhoeddwyd ddoe, mae hi’n edrych yn debygol y bydd Jeremy Corbyn yn agos at y brig yn y ras. Ond mae Peter Mandelson wedi rhybuddio fod dyfodol Llafur fel plaid llywodraethu o dan fygythiad.
Dywedodd y cyn weinidog cabinet a oedd yn un o benseiri allweddol Llafur Newydd fod y blaid yn cael trafferth i ddelio gydag “etifeddiaeth ofnadwy” Ed Miliband.
Ac mewn datganiad annisgwyl neithiwr, dywedodd Andy Burnham y byddai’n barod i wasanaethu yn y cabinet cysgodol os bydd Jeremy Corbyn yn cael ei ethol fel arweinydd.
Ond mae Yvette Cooper a Liz Kendall wedi diystyru bod yn rhan o dîm Jeremy Corbyn.