Senedd Gwlad Groeg yn Athen
Mae Senedd Gwlad Groeg wedi cymeradwyo ail becyn o ddiwygiadau gan gredydwyr rhyngwladol.

Er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn gan aelodau o’r blaid sy’n llywodraethu, Syriza, pleidleisiodd mwyafrif llethol o ASau o blaid y newidiadau.

Roedd y diwygiadau i’r systemau farnwriaeth a bancio yn rhan o’r gofynion gan wledydd parth yr ewro ar gyfer trydydd pecyn ariannol i achub economi Gwlad Groeg sydd yn werth £59.5 biliwn

Heb yr arian, byddai economi Gwlad Groeg yn mynd a’i ben iddo a byddai’r wlad fwy na thebyg yn cael ei gorfodi i adael yr ewro.