MI5
Fe wnaeth penaethiaid cudd-wybodaeth rybuddio Llywodraeth Thatcher fod honiadau ynglŷn ag Aelod Seneddol a’i “hoffter o fechgyn ifanc” mewn perygl o achosi embaras gwleidyddol, mae dogfennau wedi datgelu.
Mae ymchwilwyr cam-drin plant wedi darganfod nad oedd dim ystyriaeth wedi cael ei roi i’r bygythiad yr oedd y gwleidydd yn peri i blant, ond fe wnaeth MI5 rybuddio uwch swyddogion y gallai’r cyhuddiadau fod yn niweidiol i’r Llywodraeth.
Mae’r cyfan wedi dod i’r amlwg mewn dogfennau llywodraethol sydd wedi cael eu rhyddhau sy’n dangos fod cyn-gyfarwyddwr cyffredinol MI5 Syr Antony Duff wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet Syr Robert Armstrong yn 1986 dros honiadau a wnaed gan ddwy ffynhonnell ynglyn a’r AS.
Mewn asesiad o’r dogfennau, dywedodd Peter Wanless, pennaeth elusen blant y NSPCC, a Richard Whittam QC – sydd wedi arwain ymchwiliad i honiadau hanesyddol o gam-drin plant gan ffigurau amlwg – fod “yna nifer o gyfeiriadau” sy’n atgyfnerthu’r ffaith fod materion o droseddau yn erbyn plant, yn enwedig hawliau’r achwynydd, yn cael llawer llai o ystyriaeth ddifrifol nag yw’r disgwyl erbyn heddiw.
Mewn dogfen a gyhoeddwyd ar wefan y Llywodraeth, dywedodd y Swyddfa Gartref eu bod wedi chwilio’r archifau o’r newydd wedi i ddogfen ddod i’r amlwg yn gynharach eleni a ddylai fod wedi ei gyflwyno i ymchwiliad Peter Wanless a Richard Whittam.
Cafodd y cyn-weinidog Cabinet Leon Brittan, Peter Morrison, oedd yn gynorthwywr i Margaret Thatcher, y cyn-ddiplomydd Syr Peter Hayman a’r cyn-weinidog William van Straubenzee eu henwi mewn ffeiliau cudd eraill a gafodd ei datgelu yn dilyn yr ymchwiliad.