Fe fydd cymorth arbenigol yn cael ei roi i blant a phobl ifanc sydd yn rhedeg i ffwrdd o’u cartrefi yn ardal Heddlu Dyfed-Powys.

Bydd y gwasanaeth newydd, yn siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys, yn cefnogi’r rhai dan 18 oed a bydd staff yn cyfweld a phlant a phobl ifanc er mwyn deall pa gymorth sydd ei angen arnynt.

Mae’r gwasanaeth gwerth £80,000 wedi cael ei gomisiynu gan Christopher Salmon, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys a bydd yn cael ei gynnal gan Llamau, yr elusen ddigartrefedd yng Nghymru.

Nod y gwasanaeth yw edrych am dueddiadau mewn sefyllfaoedd ble mae pobl ifanc yn rhedeg i ffwrdd,  gan nodi risgiau yn ystod yr amser maen nhw wedi rhedeg i ffwrdd ac astudio’r llefydd maen nhw’n mynd.

Yn 2014, cofnododd Heddlu Dyfed-Powys 1,038 adroddiadau o blant ar goll oedd yn cynnwys 520 o blant a phobl ifanc o dan 18 oed.

Roedd y cofnodion yn cynnwys 344 adroddiad o Sir Gaerfyrddin, 148 o Geredigion, 259 o Sir Benfro a 287 o Bowys.

‘Sicrhau bod plant yn ddiogel’

Dywedodd Christopher Salmon, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, ei fod eisiau gwarchod y rhai sydd fwyaf  agored i niwed.

Meddai: “Mae nifer o resymau pam fod pobl ifanc yn ffoi o’u cartrefi, gan gynnwys cael eu hecsbloetio’n rhywiol.

“Rydym wedi gweld effeithiau ofnadwy o esgeulustod a diffyg gweithredu yn Swydd Efrog a Rhydychen ac rwy am i ni fynd i’r afael ag achosion i sicrhau bod plant yma yn ddiogel rhag niwed.

“Rwy’n hyderus y bydd Llamau, gyda’u profiad wrth helpu pobl ifanc sy’n agored i niwed, yn gwneud cyfraniad hynod gadarnhaol i ddiogelwch pobl ifanc ar draws Dyfed-Powys.”