Gall dyn o Gaerffili wynebu carchar am bostio llun o ferch noeth yn erbyn ei hewyllys ar ei dudalen Facebook.
Ymddangosodd Jesse Hawthorne gerbron Llys Ynadon Cwmbrân ddoe i bledio’n euog i un cyhuddiad o ddatgelu delwedd neu ffilm rhyw breifat gyda’r bwriad o achosi trallod.
Clywodd y llys fod y dyn 23 mlwydd oed wedi postio llun o’r ddynes heb ei chaniatâd ar 27 Mehefin.
Gall gael ei garcharu am hyd at ddwy flynedd a bydd Jesse Hawthorne yn cael ei ddedfrydu ym mis Awst am y drosedd.
Dywedodd Ynadon Heddwch y byddan nhw’n ei ddedfrydu wedi iddo sefyll ei brawf ar ddau gyhuddiad ar wahân o achosi difrod troseddol. Mae’n gwadu’r cyhuddiadau hynny yn ei erbyn.
Clywodd y llys fod y ferch yn y llun hefyd yn gysylltiedig â’r cyhuddiadau sy’n ymwneud â’r difrod troseddol.