Un o'r cerbydau arfog, ar y dde, ger gwesty'r Celtic Manor yn ystod uwchgynhadleddd Nato yng Nghasnewydd
Bydd cytundeb gwerth £390 miliwn i ddarparu cerbydau arfog arbenigol yn creu 250 o swyddi newydd yng Nghymru, cyhoeddodd David Cameron heddiw.

O dan gytundeb newydd hyd at 2024, bydd General Dynamics (GD) ym Merthyr Tudful yn cynnal a chadw cerbydau arbenigol Scout, dywedodd y Prif Weinidog.

Mae’n dilyn cyhoeddiad noson cyn yr uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd y llynedd y byddai’r Llywodraeth yn prynu 589 o’r cerbydau arfog.

Mae GD, sydd hefyd yn adeiladu’r cerbydau, hefyd wedi penderfynu symud peth o’r gwaith hwnnw o Sbaen i Gymru.

‘Sgiliau’

Dywedodd David Cameron tra ar ymweliad â Chymru: “Mae’r penderfyniad heddiw gan General Dynamics i ddod a rhan o waith adeiladu’r cerbydau arfog i dde Cymru yn glod i’r sgiliau ac arbenigedd yn yr ardal leol.”

Yn ôl y Llywodraeth, bydd y cerbydau yn gallu perfformio ar eu gorau ar rai o diroedd mwyaf anhygyrch y byd a bydd y gwaith o gynnal a chadw’r cerbydau yn digwydd ym Merthyr Tudful.

‘Denu Aston Martin i Sain Tathan’

Meddai’r Prif Weinidog hefyd y gallai cyfleusterau’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan gael eu hagor mewn ymgais i ddenu’r gwneuthurwr ceir moethus Aston Martin yno.

Dywedodd David Cameron: “Fel y gwnaethon ni amlinellu ddydd Mawrth, rydym eisiau gwneud mwy i ryddhau tir yn y sector cyhoeddus i greu cyfleoedd newydd i bobl sy’n gweithio’n galed.

“Yma yng Nghymru rwy’n credu bod ’na botensial go iawn i adael tir y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan er mwyn iddo fod ar gael fel rhan o’n hymdrechion i ddwyn perswâd ar Aston Martin Lagonda i gynhyrchu eu SUV newydd yn y DU.”

‘Hwb swyddi enfawr’

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb: “Mae hwn yn arwydd o hyder enfawr yn y gweithlu yng Nghymru a bydd yn rhoi hwb swyddi enfawr i Ferthyr Tudful.

“Mae’r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru yn mynd o nerth i nerth ac rwy wrth fy modd ein bod wedi gallu gweithio gyda General Dynamics i ddod i gytundeb.

“Ar draws y wlad, rydym yn ceisio cydbwyso’r economi, gan ddenu busnesau newydd i Gymru ac yn eu cefnogi i lwyddo yma.”