Ysgol Wolfreton yn Hull
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ferch 12 oed fu farw mewn damwain nofio yn ystod taith ysgol i Ffrainc.
Roedd Jessica Lawson ymhlith 24 o ddisgyblion o Ysgol Wolfreton yn Hull oedd ar daith pum diwrnod i ganolfan antur Club Correze ger Meymac yn ardal Massif Central.
Cafodd ei chludo i’r ysbyty yn Limoges ar ôl digwyddiad yn y ganolfan ddydd Mawrth. Yn ôl adroddiadau roedd y plant wedi bod yn neidio o bontŵn i lyn pan drodd y pontŵn drosodd. Credir bod rhai o’r plant wedi cael eu dal yn gaeth o dan y pontŵn.
Cafodd Jessica Lawson ei hachub o’r llyn ond bu farw yn yr ysbyty fore dydd Mercher.
Mae ei theulu wedi rhoi teyrnged iddi gan ddweud ei bod yn ferch “hyfryd a chlên” gan ychwanegu eu bod wedi torri eu calonnau.
Mae’r awdurdodau yn Ffrainc yn cynnal ymchwiliad i amgylchiadau ei marwolaeth.
Dywedodd Dave McCready, pennaeth Ysgol Wolfreton bod marwolaeth Jessica yn “drasiedi ofnadwy” ac yn “sioc enfawr i gymuned yr ysgol.”