AS Ceidwadol Mynwy, David Davies
Yn dilyn eu cyfarfodydd cyntaf ar ddechrau’r Senedd newydd, mae’r Pwyllgor Materion Cymreig wedi penderfynu edrych ar ddyfodol darlledu yng Nghymru.

Mae’r pwyllgor, sy’n cael ei gadeirio gan yr AS Ceidwadol dros Fynwy, David Davies, yn bwyllgor trawsbleidiol a benodir gan Dy’r Cyffredin i archwilio gwariant, gweinyddiaeth a pholisi Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Ar hyn o bryd mae’r pwyllgor yn cynnwys chwe AS Ceidwadol o Gymru, tri AS Llafur ac un yr un o’r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru.

Cyhoeddodd  y pwyllgor hefyd y bydd ymchwiliad i gynlluniau Llywodraeth Prydain i gyflwyno pwerau datganoli pellach i Gymru.

Mi fydd y cylch gorchwyl ac unrhyw geisiadau am dystiolaeth ysgrifenedig yn cael eu cyhoeddi fis Medi.

Mae disgwyl i Fesur drafft Cymru, fydd yn gweithredu cynigion Llywodraeth Prydain am ddatganoli pellach i Gymru, gael ei gyhoeddi yn yr Hydref.

Fe fydd y Mesur drafft yn gweithredu manylion cytundeb Dydd Gŵyl Dewi gafodd ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2015.