Mae cyn-blismon wedi cael ei wahardd o gemau pêl-droed am bum mlynedd ar ôl iddo ymddwyn yn hiliol tuag at deithiwr croenddu ar drên Metro ym Mharis.

Roedd fideo yn dangos Souleymane Sylla, yn cael ei wthio oddi ar gerbyd trên wrth i gefnogwyr pêl-droed Chelsea weiddi sloganau hiliol ato.

Roedd Richard Barklie, 50, sy’n gyfarwyddwr gyda Fforwm Hawliau Dynol y Byd (WHRF), wedi cyfaddef gwthio Souleymane Sylla ddwywaith. Ond dywedodd Barklie  bod y Ffrancwr wedi ymddwyn yn “ymosodol” ac yn gweiddi wrth iddo geisio mynd ar y trên.

Fe ddyfarnodd y barnwr Gareth Branston heddiw bod Barklie wedi ymuno a’r cefnogwyr eraill wrth iddyn nhw weiddi sloganau hiliol – “John Terry is a racist and that’s the way we like it”.

Dywedodd hefyd bod y cyn-blismon wedi profi ei fod yn “fygythiad” a’i fod wedi ymddwyn mewn modd “ymosodol ac afreolus.”

Cafodd tri o gefnogwyr eraill Chelsea hefyd eu gwahardd o gemau bêl-droed am eu rhan yn y digwyddiad.

Fe ddechreuodd y trafferthion wrth i gefnogwyr Chelsea deithio i Baris i wylio gem Cynghrair y Pencampwyr yn erbyn  Paris St Germain ar 17 Chwefror.

Cafodd Josh Parsons, 20, o Dorking, Surrey, a William Simpson, o Ashford, Surrey, eu gwahardd o gemau bêl-droed am bum mlynedd a chafodd Jordan Munday, o Sidcup ei wahardd am dair blynedd.