Tony Blair
Mae Tony Blair wedi rhybuddio’r Blaid Lafur rhag ailadrodd camgymeriadau’r 1980au wnaeth arwain at y blaid yn cael ei threchu gan y Ceidwadwyr.

Mewn ymyriad prin, dywedodd y cyn -brif weinidog y byddai llywio’r blaid i’r chwith yn sgil colli’r etholiad cyffredinol “yn trin yr etholwyr fel pe baen nhw’n dwp.”

Daeth ei sylwadau, mewn araith i’r felin drafod Progress, wrth i’r arolwg barn cyhoeddus cyntaf yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur ddangos fod y gwleidydd asgell chwith Jeremy Corbyn ar y blaen.

Rhybuddiodd Tony Blair nad oedd gwerthu Llafur fel plaid protest yn erbyn toriadau’r Ceidwadwyr yn ddigon – a’i bod yn gorfod datblygu strategaeth gredadwy ar gyfer llywodraeth os oedd am ddod i rym unwaith eto.

Arolwg barn

Daeth ymyrraeth Tony Blair wrth i arolwg gan YouGov i bapur newydd The Times ddangos mai Jeremy Corbyn oedd dewis cyntaf 43% o gefnogwyr y blaid i fod yn arweinydd newydd Llafur  – dipyn o flaen  ffefryn y bwcis Andy Burnham sydd ar 26%.

Roedd Yvette Cooper ar 20% a Liz Kendall ar 11%.

Roedd yr arolwg hefyd yn rhagweld y byddai Liz Kendall ac Yvette Cooper allan o’r ras wedi’r rownd gyntaf – ac yn dilyn ailddosbarthu ail ddewisiadau’r etholwyr  o dan y system bleidlais amgen – byddai Jeremy Corbyn yn curo Andy Burnham o 53% i 47% yn y rownd derfynol.

‘Llafur i’r carn’

Dywedodd Tony Blair hefyd fod y wleidyddiaeth asgell chwith radical mae Jeremy Corbyn yn ei gynrychioli yn “eithaf adweithiol” a dywedodd fod y Blaid Lafur wedi ennill yn y gorffennol pan oedden nhw wedi bod yn driw i egwyddorion democratiaeth gymdeithasol.

Er gwaethaf y golled enfawr gafodd y blaid yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai, dywedodd Tony Blair – wrth fynnu ei fod yn “Llafur i’r carn” – y gallai’r blaid adennill grym yn 2020.