Fallon Whatley
Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi apêl er mwyn dod o hyd i ferch 24 mlwydd oed o Risga sydd ar goll.
Cafodd Fallon Whatley ei gweld y tro diwethaf yn ei chartref am 2yp ddydd Gwener, 17 Gorffennaf.
Mae’n ferch croenwyn, 5 troedfedd 9 modfedd o daldra, gyda gwallt du. Mae Fallon Whatley hefyd yn teithio i Gasnewydd yn aml.
Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth amdani i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 292 20/07/15.