Russell George
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi lansio cynlluniau i greu swydd Gweinidog Gorllewin a Chanolbarth Cymru ym Mae Caerdydd.
Yn ôl y cynlluniau, byddai gan ddeilydd y swydd sedd yn y Cabinet er mwyn diwallu anghenion pobol y rhanbarth, gyda phwyslais arbennig ar gymunedau cefn gwlad.
Mae’r cynllun yn rhan o’r ddogfen ‘Sefyll i Fyny dros Gefn Gwlad Cymru’ ar gyfer cymunedau gwledig.
Mae’r Ceidwadwyr hefyd yn galw am sefydlu system annibynnol er mwyn craffu ar faterion cefn gwlad.
Ar hyn o bryd, Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am graffu ar ei pherfformiad ei hun wrth fynd i’r afael â materion sy’n codi o fewn cymunedau gwledig.
Mae’r ddogfen hefyd yn galw am:
– Nodi ardaloedd sy’n wynebu’r perygl o lifogydd
– Siartr Cig Coch
– Hybu cynnyrch bwyd a diod o Gymru
– Adolygiad hanner tymor o’r CAP
– Diogelu dyfodol y Ffermwyr Ifainc
– Creu mentrau ynni cymunedol
– Ehangu Band Llydan yng nghefn gwlad
‘Dylanwad’
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd amaeth a materion gwledig y Ceidwadwyr yng Nghymru, Russell George: “Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen rhagor o gefnogaeth a grym ar gymunedau yng nghefn gwlad Cymru.
“Gyda’r heriau maen nhw’n eu hwynebu ar eu hanterth, rydym am weld pobol leol yn cael llawer mwy o ddylanwad ar y penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.”
Mae’r Ceidwadwyr eisoes wedi galw am sefydlu Gweinidog Gogledd Cymru.
Ychwanegodd Russell George: “Ni ddylai’r un gweision sifil sy’n llunio polisïau’r Llywodraeth fod yn asesu eu heffaith.
“Dylai’r cyfrifoldeb hwnnw fod yn nwylo’r gwybodusion – y cymunedau gwledig hwythau.”