Gwylan
Fe fyddai cosbi pobol sy’n bwydo gwylanod yn mynd yn groes i’w hawliau crefyddol, clywodd Cyngor Sir Conwy.

Roedd y Cyngor wedi ystyried cyflwyno dirwyon ar bobol sy’n bwydo’r adar er mwyn mynd i’r afael â’r gwylanod sy’n achosi problemau yn nhref glan môr Llandudno.

Ond, fe gawson nhw eu cynghori yn erbyn y cynllun, oherwydd y gallai hynny fynd yn groes i gredoau rhai crefyddau, meddai’r cyngor.

Wrth ymateb i awgrym y gallai cosb ariannol weithio yn yr un ffordd a dirwyon sy’n cael eu rhoi i bobl sy’n gollwng sigaréts ar lawr, dywedodd Jim Jones, Pennaeth Twristiaeth a Hamdden Cyngor Sir Conwy ar Twitter:

“Fe wnaethon ni edrych ar y syniad o ddirwyon, ond mae bwydo adar yn un o hawliau rhai crefyddau”.

Er na fydd y Cyngor yn cymryd camau swyddogol i rwystro pobol rhag bwydo’r adar, dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor eu bod nhw’n rhybuddio pobol i beidio â gwneud hynny er mwyn ceisio eu hatal rhag ymosod ar bobol.

Mae’r gwylanod wedi bod yn broblem yn Llandudno ers blynyddoedd ac yn achosi problemau i bobol leol a’r ymwelwyr sy’n ymweld â’r dref.

‘Angen trafodaeth’

Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, hefyd wedi dweud bod angen “trafodaeth fawr” ynglŷn â’r bygythiad gan rai adar ymosodol.

Daeth ei sylwadau yn dilyn dau ymosodiad gan wylanod yng Nghernyw pan gafodd dau anifail anwes – crwban a daeargi – eu lladd.

“Mae gennym ni broblem,” meddai David Cameron.

Roedd chwarter miliwn o bunnau wedi cael ei glustnodi gan Lywodraeth y DU ar gyfer gwaith ymchwil ynglŷn â sut i fynd i’r afael a’r nifer cynyddol o wylanod mewn trefi a dinasoedd, ond cafodd y cynllun ei sgrapio pan gyhoeddwyd y Gyllideb fis diwethaf.