Cyngor Dinas a Sir Abertawe
Mae cais cynllunio wedi cael ei gyflwyno gan Gyngor Dinas a Sir Abertawe i godi adeilad newydd ar safle presennol Ysgol Gynradd Gymraeg Lon Las yn Llansamlet.

Mae cais arall wedi cael ei gyflwyno yn galw am gartref dros dro ar gyfer Ysgol Gymraeg y Cwm yn ardal Bon-y-Maen y ddinas tra bo’r safle parhaol yn cael ei ddatblygu.

Mae’r ceisiadau’n rhan o gynllun ysgolion Cyngor Abertawe i drawsnewid cyfleusterau addysg yr awdurdod.

Dros yr haf, mae disgwyl i gontractwyr gynnal arolwg o’r ddau safle cyn ceisio caniatâd terfynol gan Lywodraeth Cymru.

‘Adeiladau mewn cyflwr gwael’

Mewn datganiad, dywedodd y Cynghorydd Jen Raynor, yr Aelod Cabinet dros Addysg: “Mae cyraeddiadau’r disgyblion yn un o brif flaenoriaethau’r cyngor ac mae’r holl dystiolaeth yn dangos bod amgylchedd ysgol gwell yn hyrwyddo cynnydd mewn dysgu.

“Mae angen llawer o waith gwella ar Ysgol Gynradd Gymraeg Lon Las. Mae’r adeiladau presennol yn hen ac mewn cyflwr gwael ac nid ydynt yn addas ar gyfer ystod oedran y disgyblion sy’n cael eu haddysgu yno.

“O ganlyniad, maent hefyd yn gynyddol ddrud i’w cynnal a’u cadw.

“I’r gwrthwyneb, byddai buddsoddiad sylweddol yn yr ysgol newydd arfaethedig yn darparu cyfleusterau dysgu ac addysgu o safon i ddiwallu disgwyliadau disgyblion a staff mewn ysgol yn yr unfed ganrif ar hugain.

“Rydym hefyd yn adeiladu ar fesurau’r cynllun a fydd yn sicrhau y bydd y buddsoddiad yn dod â manteision cymunedol hefyd, gan gynnwys cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant.”