Mae dau droseddwr rhyw yn cael eu cyhuddo o droseddau yn erbyn plant bob dydd, yn ôl elusen yr NSPCC.

Daw hyn ddwy flynedd wedi i’r Prif Weinidog, David Cameron, gyflwyno mesurau i’w gwneud hi’n anoddach i bobol ddod o hyd i ddelweddau anweddus ac o gam-drin plant ar y we.

Mae traean o’r troseddwyr sy’n cael eu cyhuddo yn bobol sydd mewn swyddi cyfrifol ac yn ymwneud â phlant o ddydd i ddydd fel rhan o’u gwaith, meddai’r NSPCC.

‘Cyfreithiau llymach’

Yn ôl yr NSPCC, mae o leiaf mil o achosion llys yn ymwneud â delweddau anweddus a cham-drin plant wedi bod yn y Deyrnas Unedig yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.

Ym mis Gorffennaf 2013, fe wnaeth y Prif Weinidog ddatgan y byddai’n cyflwyno cyfreithiau llymach ar gwmnïau a darparwyr we i atal delweddau o’r fath rhag bod ar gael.

“Mae maint y broblem yn syfrdanol, ac yn waeth wrth ystyried nifer y bobol sy’n dal swyddi cyfrifol o fewn ein cymunedau,” meddai Claire Lilley, pennaeth diogelwch plant ar y we ar ran yr NSPCC.

“Mae’n rhaid inni ymateb ar frys i atal enghreifftiau o’r cam-drin erchyll yma rhag ymddangos ar-lein,” ychwanegodd Claire Lilley.

Doctoriaid, athrawon, swyddogion ieuenctid…

Roedd y troseddwyr a gafodd eu cyhuddo yn ystod y ddwy flynedd diwethaf yn gweithio fel doctoriaid, athrawon, swyddogion ieuenctid, clerigwyr a swyddogion yr heddlu.

Nododd yr elusen bod chwech allan o ddeg o’r rheiny wedi’u carcharu, ac mai dwy yn unig oedd yn fenywod.

Yn ôl Karen Bradley, Gweinidog ar atal camdriniaeth ac ecsbloetio, mae Llywodraeth Prydain wedi blaenoriaethu cam-drin plant yn rhywiol fel bygythiad cenedlaethol.

Maen nhw’n parhau i gydweithio â phrif ddarparwyr peiriannau chwilio i atal lluniau anweddus rhag ymddangos, ac yn bwriadu cyflwyno cyfreithiau llymach, meddai.

‘Lle i gyflogwyr wneud mwy’

Wrth ymateb i’r ffigurau ar y Post Cyntaf y bore yma, fe alwodd Helen Mary Jones, Prif Weithredwr Youth Cymru, am ymateb cyfreithiol gan y Llywodraeth i roi pwysau ar ddarparwyr a chwmnïau’r we.

Dywedodd fod yr adroddiad yn “rhoi braw i rywun”, a’i fod yn dangos nad yw’r Llywodraeth “hyd yn oed wedi dechrau cael gafael ar y broblem.”

“Mae lle i gyflogwyr wneud mwy,” meddai, a chredai’n gryf fod angen darparu hyfforddiant diogelu plant ar gyfer pobol sy’n ymwneud â phlant o ddydd i ddydd.

“Tu ôl i’r delweddau yma, wrth gwrs, mae ’na blentyn sy’n cael ei gam-drin go iawn,” ychwanegodd.