Jeremy Corbyn
Jeremy Corbyn fydd yn fuddugol yn y gystadleuaeth i ddewis arweinydd newydd i’r Blaid Lafur, yn ôl arolwg barn.

Mae ymchwil gan YouGov ar gyfer The Times yn dweud bod yr AS adain chwith yn cael ei gefnogi gan 43% o aelodau’r blaid – o’i gymharu â 26% i ffefryn y bwcis Andy Burnham.

Roedd Yvette Cooper yn drydydd ar  20% a Liz Kendall ar 11%.

Daeth canlyniadau’r arolwg ar ôl i Jeremy Corbyn fynd yn groes i alwadau arweinydd dros dro’r blaid, Harriet Harman mewn pleidlais nos Lun am doriadau i’r wladwriaeth les. Roedd Corbyn ymhlith 48 o ASau’r blaid wnaeth bleidleisio yn erbyn y Bil ar ôl i Harriet Harman alw ar ASau’r blaid i atal eu pleidlais.

Mae disgwyl i’r cyn-brif weinidog Llafur, Tony Blair annerch digwyddiad yn ddiweddarach heddiw ac mae’n debyg y bydd yn rhybuddio’r blaid unwaith eto yn erbyn gwyro gormod i’r chwith.

Dywedodd John McTernan, cyn-ymgynghorydd arbennig i Tony Blair yn Downing Street, wrth Newsnight y BBC bod y ffigurau’n “drychinebus” i’r Blaid Lafur.