Mae dau ddyn wedi marw yn dilyn ffrwydrad ar stad ddiwydiannol yn Norwich.
Cafodd yr heddlu a’r gwasanaeth tan eu galw i safle Harford Attachments, yn Heol Spar, Hellesdon am 9.20 y bore ma.
Dywedodd Heddlu Norfolk bod y ddau ddyn, un yn ei 50au a’r llall yn ei 20au, yn gweithio ar y safle.
Cafodd ambiwlans awyr hefyd ei anfon i’r safle a chafodd y stad ei gau i’r cyhoedd tra bod yr heddlu’n delio gyda’r digwyddiad.