Mae cynlluniau dadleuol i ddiwygio deddfau streicio wedi cael eu condemnio gan arweinwyr undebau llafur, gan eu cymharu gyda’r “Almaen yn y 1930au.”

Mae’r ddeddfwriaeth sy’n cael ei gyhoeddi ddydd Mercher, yn cynnig fod rhaid cael trothwy o 50% o’r bleidlais, cyn y gellir gweithredu’n ddiwydiannol, tra bod angen i 40% o’r rhai sy’n gymwys i bleidleisio fod o blaid streicio yn y gwasanaethau cyhoeddus craidd fel iechyd, cludiant, addysg a’r gwasanaethau tân.

Mae mesurau eraill yn anelu i ddisodli cyfyngiadau i ddefnyddio gweithwyr asiantaeth.

‘Tynnu grym y gweithwyr’

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur, Frances O’Grady: “Mae’r Llywodraeth hon yn benderfynol o gymryd pwerau’r gweithwyr wrth drafod, gan roi’r grym i’r penaethiaid mewn anghydfod.”

Yn ôl Frances O’Grady: “Hyd yn oed pan fyddai pleidlais yn cyrraedd y trothwy, bydd cyflogwyr yn gallu codi dau fys, gan ddod a gweithwyr asiantaeth i mewn i dorri’r streic.”

Ychwanegodd: “Mae’r Mesur hwn yn sarhad i chwarae teg. Mae fel rhywbeth allan o nofel George Orwell. Fe fydd y ddeddfwriaeth hon yn arwain at hawliau gwaeth i ni gyd.”

‘Cywilyddus’

Dywedodd ysgrifennydd undeb y gyrwyr trên, Aslef, Mick Whelan: “Mae’n gywilyddus fod y Llywodraeth Dorïaidd yn mynd ar ôl yr undebau llafur – sy’n gallu sefyll dros weithwyr cyffredin, ynghyd â’r gwan a’r tlawd.”

Mae Mick Whelan yn cymharu’r cynlluniau gyda’r Almaen o dan y Natsïaid, fel yr eglurodd: “Mae’n ymdebygu i’r Almaen yn y 1930au, lle’r oedd arweinwyr undebau llafur yn cael eu carcharu. Fe waharddodd y Natsïaid undebau a streiciau, ym 1933, a dyna beth y mae’r Torïaid yn ceisio ei wneud rŵan.”