Mae dyn 27 oed o Ferthyr Tudful wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â thân mewn capel hanesyddol yn Aberfan.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i Gapel Aberfan, a godwyd yn 1876, am 2.30yb ddydd Sadwrn, 11 Gorffennaf.

Yn dilyn ymchwiliad, dywedodd swyddogion bod y tân wedi cael ei gynnau’n fwriadol.

Mae rhan helaeth o’r capel ar Ffordd Aberfan wedi cael ei ddifrodi.

Yn ystod trychineb Aberfan yn 1966, cafodd y capel ei ddefnyddio fel marwdy dros dro ar gyfer cyrff rhai o’r 166 o blant ac oedolion a gafodd eu lladd pan lithrodd y domen lo ar ysgol gynradd a thai.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu’r De ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.