Jane Hutt
Fe fydd Bil hanesyddol sy’n sefydlu trefniadau ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig, yn cael ei gyhoeddi heddiw.

Mae’n  nodi cyfnod pwysig newydd mewn datganoli yng Nghymru, meddai’r  Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Jane Hutt heddiw.

Pan gaiff dwy dreth Gymreig newydd eu datganoli o Ebrill 2018, mae Cymru’n sefydlu ei threfniadau ei hun ar gyfer trethi datganoledig am y tro cyntaf.

Bydd Bil  Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) yn gosod trefniadau yn y gyfraith i alluogi trethi datganoledig i gael eu casglu a’u rheoli, gan ddarparu refeniw sy’n hanfodol i helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus.

Bydd y Bil yn sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ac yn cyflwyno pwerau a dyletswyddau i’w alluogi i gasglu a rheoli trethi datganoledig.

Mae’r Bil yn gosod dyletswyddau ar drethdalwyr i dalu cosbau a llog o dan rai amgylchiadau ac yn rhoi’r hawl i ofyn am adolygiadau mewnol o benderfyniadau ACC ac i apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.

Bydd hefyd yn darparu i Siarter Safonau a Gwerthoedd – Siarter y Trethdalwyr  – gael ei sefydlu a’i gosod gerbron y Cynulliad.

‘Tryloyw’

Meddai Jane Hutt: “Mae cyflwyno’r Bil yn nodi cyfnod arwyddocaol newydd mewn datganoli yng Nghymru.  Am y tro cyntaf mewn bron 800 o flynyddoedd, byddwn yn gallu datblygu trethi sy’n diwallu anghenion a blaenoriaethau Cymru ac fe fyddwn yn gyfrifol am gynhyrchu rhywfaint o’n refeniw.

“Mae’r Bil hwn yn un o dri darn o ddeddfwriaeth a fydd yn sefydlu trethi datganoledig yng Nghymru.  Bydd y Bil hwn yn sefydlu trefniadau casglu a rheoli trethi yn barod am ein trethi Cymreig yn y dyfodol – y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

“Mae busnesau a threthdalwyr yn haeddu system drethu sydd yn ei hanfod yn syml ac yn dryloyw.”

Disgwylir i’r ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno i’r Cynulliad wythnos yma gyda’r  Gweinidog yn gwneud Datganiad Llafar arno yn ystod y Cyfarfod Llawn yn y Senedd yfory, (Dydd Mawrth, Gorffennaf 14.)