Mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) wedi ymuno yn y galwadau dros godi treth o 20c ar ddiodydd llawn siwgr, gan fynnu y byddai’n gam cyntaf tuag at y nod o drethu ystod eang o gynnyrch, fel rhan o’r ymgyrch i ostwng gordewdra yn y DU.

Mae’r BMA wedi honni y byddai cyflwyno’r dreth yn gostwng cyfradd gor-dewdra yn y DU ymhlith tua 180,000 o bobl.

Gydag amcangyfrifon y bydd dros draean o’r boblogaeth yn ordew erbyn 2030, maen nhw hefyd yn rhybuddio fod diet gwael yn costio’r Gwasanaeth Iechyd dros £6 biliwn y flwyddyn.

Mae’r adroddiad yn nodi: “Ym Mhrydain, mae’r sialensiau i iechyd cyhoeddus o ddiffyg maeth, bwyd anniogel a dŵr, wedi cael eu disodli gan ddiet gwael.”

‘Gall Gymru arwain yn y maes’

Y BMA  yw’r corff diweddaraf i alw am dreth ar siwgr. Yng Nghymru, mae Plaid Cymru eisoes wedi galw am dreth ar ddiodydd llawn siwgr, gyda’r cogydd Jamie Oliver yn cefnogi’r cynlluniau.

Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones, wedi croesawu’r adroddiad gan y BMA: “Yng Nghymru, mae lefelau o ordewdra a chymryd gormod o siwgr ymhlith yr uchaf, ac mae angen mynd i’r afael a hyn.

“Gall Gymru arwain yn y maes hwn ac mae’n dda gweld fod mwy o arbenigwyr meddygol yn cefnogi gweithredu tebyg i Blaid Cymru.”

Ond mae grŵp defnyddwyr Action on Consumer Choice yn credu na fydd treth ar ddiodydd melys yn debyg o effeithio er gwell ar ddiet pobl ac yn gam yn ôl.

“Fe fydd treth ar siwgr, rhybuddion iechyd a chynigion eraill i’n hannog i fwyta llai o siwgr yn cael llai o effaith ar iechyd pobl gan fod bwydydd melys yn rhan fach iawn o’n diet.

“Mae’n gorfodi yn hytrach nag addysgu pobl i newid eu hymddygiad.”