Yr heddlu ym Mharis
Mae 18 o bobl wedi cael eu rhyddhau’n ddiogel yn dilyn lladrad arfog mewn siop ym Mharis.
Mae’r dynion arfog, a oedd wedi torri mewn i siop Primark yn nhref Villeneuve-la-Garenne, a’u traed yn rhydd.
Roedd yr heddlu wedi amgylchynu’r siop ac wedi cau’r ardal gyfagos, sydd gyferbyn a’r Afon Seine, tua chwe milltir i’r gogledd o ganol Paris.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod y dynion arfog wedi bod yn ceisio dwyn o siop Primark ac wedi torri mewn tua 6.30yb.
Mae’r heddlu’n parhau i chwilio am y dynion arfog.
Mae Paris wedi bod yn wyliadwrus ers i eithafwyr Islamaidd ymosod ar archfarchnad Iddewig a phapur newydd dychanol Charlie Hebdo ym mis Ionawr, gan ladd 20 o bobl, gan gynnwys yr ymosodwyr.