Mae bachgen 13 mlwydd oed wedi cael ei arestio ar ôl i blentyn 14 mlwydd oed gael ei drywanu yn ei glun mewn ysgol.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad yn Lewisham, de-ddwyrain Llundain, yn gynharach heddiw ble ddaethon nhw o hyd i’r bachgen 14 mlwydd oed. Nid yw’r anaf yn un all beryglu ei fywyd.

Ychwanegodd Scotland Yard y gallai’r digwyddiad wedi bod yn “lawer gwaeth”, ac mai lwc yn unig oedd hi nad oedd y plentyn wedi ei anafu’n fwy difrifol

Daw’r digwyddiad ychydig ddyddiau ar ôl i Gomisiynydd Heddlu Llundain, Syr Bernard Hogan-Howe, alw am gynnal rhagor o  stopio a chwilio er mwyn atal troseddau gyda chyllyll.