bws cymalog First Cymru
Mae cwmni bysus First Cymru wedi penderfynu diddymu gwasanaeth yr ftrMetro – neu’r ‘bendy bus’ – yn Abertawe.

O Fedi 1, bydd bysus newydd mwy traddodiadol yn cael eu hail-gyflwyno a fydd yn fwy ecogyfeillgar ac yn fwy economaidd.

Ond mae First Cymru yn dweud bod dybryd angen adnewyddu’r cerbydau.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr First Cymru, Justin Davies: “Mae’r bysus cymalog ftrMetro wedi gweithio’n dda ers eu cyflwyno yn 2009.

“Maen nhw bellach wedi cyrraedd pwynt lle mae angen eu hadnewyddu ar y tu fewn a’r tu allan.

“Maen nhw’n gerbydau unigryw, yn rhan o fflyd o 25 gafodd eu hadeiladu ar adeg pan oedd y defnydd o fysus cymalog yn gyffredin yn y DU.

“Ers eu hadeiladu, mae technoleg injans wedi gwella’n sylweddol o ran tanwydd a chostau cynnal a chadw is.”

Bydd cyfnod ymgynghori’n dechrau ar unwaith yn dilyn y penderfyniad.

Ychwanegodd Justin Davies: “Dydy ein penderfyniad ddim yn adlewyrchu mewn unrhyw ffordd ar ymrwymiad cydweithwyr sydd wedi gweithio’n ddiflino i ddarparu’r gwasanaeth gorau posib.”

Yn sgil y penderfyniad, fe fydd llwybrau bysus cyffredin o amgylch y ddinas yn cael eu diweddaru ac fe fyddai unrhyw newidiadau’n golygu symud bysus oddi ar ffordd y Kingsway wrth deithio i gyfeiriad y dwyrain allan o’r ddinas.