Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gomisiynu astudiaeth dichonolrwydd i ail-agor y lein rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.

Yn dilyn ymgyrch gan grŵp ‘Traws Link Cymru’, a chyfarfod yn Llambed rhwng Elin Jones AC, Simon Thomas AC, yr ymgyrchwyr a’r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, Edwina Hart, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bod am gomisiynu adroddiad cychwynnol ar ddichonoldeb ailagor y cysylltiad rheilffordd.

Cafodd y lein ei gau yn sgil toriadau’r Dr Richard Beeching nol yn y 60au.

Mewn llythyr  at AC Ceredigion, Elin Jones, mae Edwina Hart wedi datgan ymrwymiad y Llywodraeth i wario £30,000 dros y misoedd nesaf i edrych ar gost y gwaith fydd ei angen i ddatblygu’r lein.

Ychwanegodd Edwina Hart y bydd swyddogion o’r Llywodraeth ac arbenigwyr trafnidiaeth annibynnol yn barod i gyd-weithio’n agos â chynrychiolwyr ymgyrch ‘Traws-Link Cymru’.

‘Hwb mawr i’r ymgyrch’

Croesawodd yr AC Elin Jones y penderfyniad gan ddweud fod yr astudiaeth yn gam ymlaen gan y Gweinidog i ddatblygu’r fenter hon ymhellach. Mewn datganiad, dywedodd:  “Mae’n newyddion gwych fod y Gweinidog yn comisiynu’r adroddiad, ac yn adlewyrchiad o lwyddiant ymgyrch mudiad Traws-Link.

“Wrth gwrs, mae dipyn o ffordd i fynd yn yr ymgyrch, ond mae’n arwyddocaol iawn fod y Gweinidog wedi cael ei pherswadio fod hon yn syniad y dylid ei ddatblygu ymhellach.”

Mae disgwyl i ganlyniadau’r astudiaeth gael eu cyhoeddi tua diwedd y flwyddyn.